Amdanom

Am Taid

Cynorthwyydd Cymraeg digidol yw Taid. Gall egluro pethau, helpu gyda gwaith ysgrifennu, a darllen Cymraeg yn uchel. Gall Nain wneud yr un pethau gyda llais gwahanol.

Nid person go iawn

Mae Taid a Nain yn defnyddio model iaith, felly gallan nhw wneud camgymeriadau. Dylid gwirio ffeithiau pwysig gyda ffynhonnell ddibynadwy neu athro.

Preifatrwydd

Does dim cyfrif. Cedwir hanes y sgwrs yn sessionStorage y tab hwn, a gelli ei glirio gyda “Sgwrs newydd”. Mae'r API yn cofnodi fersiwn wedi'i glanhau o'r neges ddiweddaraf a mesurau gweithredol; ar gyfer testun sensitif cedwir y categori yn unig. Nid yw'n storio cyfeiriad IP nac user agent. Gelli droi modd dim cofnod ymlaen.

Pwy adeiladodd e?

Prosiect gan Ryland yw Taid, fel rhan o deulu Gwgl: Chwilio, Cyfieithu, a Tueddiadau. Mae'r lleisiau Cymraeg yn dod o wasanaeth testun-i-leferydd Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor.