I ysgolion

Defnyddio Taid yn yr ysgol

Teclyn Cymraeg syml yw Taid ar gyfer disgyblion 11–16 oed. Mae'n helpu i egluro, symleiddio a gwella testun, ac i ddarllen Cymraeg yn uchel. Nid yw'n cymryd lle athro nac adnodd dysgu wedi'i wirio.

Beth mae'n ei storio?

Does dim cyfrif ac nid ydym yn gofyn am enw, e-bost na manylion yr ysgol. Mae hanes y sgwrs yn aros yn sessionStorage ar y ddyfais. Mae'r API yn cadw fersiwn wedi'i glanhau o neges y defnyddiwr am hyd at 400 diwrnod, neu gategori yn unig os yw'n sensitif, ynghyd ag ID sesiwn ar hap a mesurau gweithredol. Nid yw'n storio cyfeiriad IP nac user agent. Gellir troi modd dim cofnod ymlaen ar y dudalen preifatrwydd.

Sut mae diogelwch yn gweithio?

Mae pob neges yn cael gwiriad diogelwch cyn mynd at y model. Mae cynnwys casineb a chynnwys rhywiol sy'n ymwneud â phlant yn cael ei wrthod yn fyr. Mae negeseuon am hunan-niwed neu drallod yn cael ateb tyner a gwybodaeth Meic a Childline Cymru. Mae terfynau defnyddio yn helpu i atal sbam.

Darllen yn uchel

Mae Dweud hyn yn darllen testun wedi'i gludo heb ei anfon at fodel iaith. Mae'r gweinydd Taid, nid porwr y disgybl, yn cysylltu â gwasanaeth llais Prifysgol Bangor.

Cysylltu

Os oes gan athro gwestiwn, adborth neu bryder diogelwch, e-bostiwch support@gwgl.cymru.